Thursday 9 June 2011

Y camau sydd angen eu gwneud ar ôl etholiad gwael?

1. Derbyn bod yr etholiad wedi bod yn drychineb a chymryd cyfrifoldeb am y bai. 

2. Dysgu lle aeth popeth o’i le. 

3. Gofyn am gymorth a gwrando i eraill. 

4. Cyfaddef nad ydych mewn unrhyw sefyllfa i feirniadu eraill tra’n ceisio pwyso a mesur eich problemau chi’ch hun (mae ond yn diweddu mewn cylch dieflig, ac ys dywed rhai ‘mae’r rhod yn troi’)

5. Uno megis plaid a sicrhau bod eich neges yn un glir. Peidio â chaniatáu i unigolion rhoi neges gwahanol i’r cyfryngau nad yw’n perthyn i bolisi’r blaid. 

6. Peidio bod yn ofn newid. 

Pa gam ydych chi'n ei gymryd ar hyn o bryd? Byddwch chi’n ychwanegu cam arall? Ydy pawb wedi cymryd y cam gyntaf? Ydy rhywun wedi anghofio gwneud y camau i gyd? Trafodwch!

No comments:

Post a Comment